National Learning and Work Institute

Cyfarwyddwr Cymru

  • Ystyrir IIawnamser hyblygneu ranamser
  • Cymru
  • Caerdydd

Amdanom ni

Amdanom ni 

Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith (L&W) yn sefydliad polisi ac ymchwil annibynnol gyda ffocws ar ddysgu gydol oes a gwell gwaith. Ein gweledigaeth yw cymdeithas deg a ffyniannus lle mae dysgu a gwaith yn galluogi pawb i wireddu eu potensial. Rydym yn ymchwilio yr hyn sy'n gweithio, yn dylanwadu ar bolisi, ac yn datblygu syniadau newydd i wella ymarfer. 

Y Rôl

Math o Gontract: Parhaol 

Cyflog: £64,450-£77,880 

 

Mae hon yn rôl allweddol yn y Sefydliad Dysgu a Gwaith, yn arwain ein tîm a'n gwaith yng Nghymru ac yn rhan o Dîm Uwch-reolwyr L&W. Mae'n anelu at gynyddu ein heffaith ar ddysgu, sgiliau a chyflogaeth yng Nghymru, gan gynnwys trwy: ehangu ac amrywio ein hincwm; cynyddu ein proffil; rheoli ein partneriaethau strategol a dylanwadu ar lefelau uwch yng Nghymru; a sicrhau ein bod yn cyflwyno polisïau, ymchwil a digwyddiadau o ansawdd uchel sy'n gwneud gwahaniaeth i bolisi ac ymarfer. Mae'r rôl hefyd yn aelod o Dîm Uwch-reolwyr L&W, gan weithio ledled y sefydliad, gan sicrhau ein bod yn gweithio mewn ffordd gydlynus, bod L&W yn lle atynyiadol a chefnogol i weithio ynddo, ac arwain ar gynlluniau penodol o fewn y sefydliad. 


Dyletswyddau a Chyfrifoldebau


  • Cynhyrchu ac amrywio incwm. Adnabod a sicrhau ffynonellau newydd o incwm gan gynnwys cynhyrchu ceisiadau cyllid o ansawdd uchel a llwyddiannus, gan weithio gyda chydweithwyr ledled yr sefydliad pan fo'n briodol. 
  • Strategaeth a chynllunio ariannol. Arwain datblygiad a gweithredu cynllun strategol L&W yng Nghymru, gan gynnwys cydweithio â'n Grŵp Strategaeth Cymru a chynyddu cyfleoedd i sicrhau effaith, a sicrhau cynaliadwyedd ariannol gwaith L&W yng Nghymru. 
  • Ymgysylltu â rhanddeilaid. Adeiladu perthynas effeithiol a chynhyrchiol ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector yng Nghymru, gan gynnwys gyda gweinidogion, cynghorwyr arbennig a swyddogion uwch yn Llywodraeth Cymru, a dylanwadwyr allweddol eraill, i gynyddu ein heffaith i’r eithaf. 
  • Arweinyddiaeth a rheolaeth. Bod yn aelod gweithgar o’r Tîm Uwch-reolwyr ac yn arweinydd sefydliadol, gan hyrwyddo gwaith cydlynus a L&W fel lle gwych i weithio. Arwain ein tîm yng Nghymru, gan sicrhau eu bod yn cael cyfleoedd i ddatblygu ymhellach. Gweithredu bob amser mewn ffordd gynhwysol, gydweithredol ac agored sy'n byw ein gwerthoedd. 
  • Rheoli prosiectau. Sicrhau y cyflwynir ein portffolio o waith yng Nghymru ar amser, o fewn cyllideb, ac o ansawdd uchel, a gwneud y cysylltiadau rhwng prosiectau fel eu bod yn cael y dylanwad mwyaf. 
  • Cyfathrebu strategol. Hybu proffil allanol a negeseuon allweddol L&W drwy weithgaredd cysylltiadau cyhoeddus. marchnata a chyfryngau. Sicrhau fod L&W yn cydymffurfio bob amser â Safonau’r Gymraeg. 
  • Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill fel y gofynnir amdanynt gan y Prif Swyddog Gweithredol, gan gynnwys teithio i swyddfeydd eraill L&W. 

 

Amdanoch Chi

Hanfodol:

  • Gallu i ddatblygu busnesau a ffrydiau incwm newydd gan gynnwys ymateb i dendrau ac ysgogi cyllid gweithredol gan elusennau a sefydliadau 
  • Sgiliau rhyngbersonol rhagorol gyda'r gallu i ymgysylltu ag amrywiaeth o gynulleidfaoedd. Byddwch yn hyderus ar lwyfannau cenedlaethol yn delio â'r cyfryngau; yn ysgrifennu ar gyfer amrywiaeth o lwyfannau gwahanol a chyfryngau cymdeithasol. 
  • Sgiliau arweinyddiaeth sy'n cynnwys datblygu a chymell staff a thimau, a'r gallu i gydweithio fel rhan o'r Tîm Uwch-reolwyr. 
  • Gallu i adeiladu ac ehangu rhwydweithiau, cynghreiriau a chydberthnasau ar y lefel uchaf ledled rhanddeiliaid yng Nghymru, gan gynnwys gwleidyddion a gwneuthurwyr polisi. 
  • Gwybodaeth drylwyr o’r amgylchedd gwleidyddol a pholisi yng Nghymru ym meysydd dysgu, sgiliau a chyflogaeth 
  • Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar ardderchog i ddylanwadu a darbwyllo, cyflwynydd hyderus gyda'r gallu i gysylltu â phob math o gynulleidfaoedd 
  • Gallu i reoli portffolio o brosiectau ymchwil a pholisi a digwyddiadau  

polisi yn effeithiol, a gyflwynir ar amser ac o fewn y gyllideb i safon uchel 

  • Gallu i ddatblygu busnes newydd a ffrydiau incwm ar gyfer L&W, gan gynnwys ymateb i dendrau ac ysgogi cyllid gweithredol gan ymddiriedolaethau a sefydliadau 


Dymunol: 

  • Deall meysydd dysgu, sgiliau a pholisi a chymhwysedd cyflogaeth ledled y DU a rhwydweithiau cyswllt yng Nghymru a'r DU 
  • Gwybodaeth neu brofiad o ofynion llywodraethu, megis gweithio gyda Byrddau, yn y trydydd sector 
  • Meddwl arloesol a chreadigol sydd â hanes o drawsnewid syniadau yn ymarfer ac yn gallu deall ac adolygu amrywiaeth o ymchwil a pholisi. 
  • Gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg, a'r hyder i wneud hynny 


Y Pecyn


Cyflog o £64,450-£77,880 yn dibynnu ar brofiad a lleoliad 

- 31 diwrnod o wyliau yn cynyddu i 33 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth, gyda 3 ohonynt yn ddyddiau ar gau yn ychwanegol at wyliau cyhoeddus 

- Cynllun pensiwn cwmni hael gyda chyfraniad cyflogwr o 8% 

- Sicrwydd Bywyd Grŵp 3*cyflog 

- Gweithio hybrid (gyda 40%-60% o’ch amser yn y swyddfa) 

- Arferion gweithio hyblyg 

- Cynllun Datblygu Cyflogeion 

- Disgownt Manwerthwyr 

- Tâl galwedigaethol estynedig mamolaeth, mabwysiadu, tadolaeth a chyflog rhiant a rennir 

- Tâl salwch galwedigaethol uwch 

- Cynllun gofal llygaid 

- Cynllun Cymorth a Lles y Gweithiwr 

- Gwobr Aur Buddsoddwyr mewn Pobl 

Manylion

Rydym yn gwerthfawrogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, ac yn croesawu ceisiadau o gefndiroedd gwahanol. Rydym hefyd yn ymrwymo i wneud addasiadau rhesymol ar gyfer ymgeiswyr sydd â gofynion hygyrchedd. 

 

Os yw’r profiad a'r nodweddion uchod gennych a’ch bod yn angerddol am gefnogi cyflawni ein gweledigaeth, yna gallech chi fod yr union berson i ni  Caiff ceisiadau sy'n cynnwys CV a llythyr eglurhaol eu croesawu trwy'r ddolen isod. 

  

 

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 29 Awst 2025. Caiff cyfweliadau'n eu cynnal ar ôl y dyddiad cau. 

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â'r Tîm Adnoddau Dynol: 

[email protected].